Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwneud cais am gyllid gosod band eang

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r wefan ymgeisio am gyllid gosod band eang ac mae wedi ei anelu’n benodol at Gynllun Grant Allwedd Band Eang Cymru.

ceisioamgyllidgosodbandeang.gwasanaeth.llyw.cymru

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd

How accessible this website is

We know some parts of this website are not fully accessible:

  • nid yw rhai tudalennau a dogfennau atodedig wedi’u hysgrifennu’n glir
  • nid yw rhai botymau yn gwrthgyferbynnu’n ddigonol pan fyddant yn y wedd ffocysu
  • nid yw rhai hyperddolenni yn gwrthgyferbynnu’n ddigonol yn y wedd ffocysu
  • mae’r cyferbyniad rhwng rhai meysydd mewnbynnu â’r cefndir yn isel yn y wedd ffocysu
  • gellid gwella rhai labeli ar y wefan
  • nid yw teitlau rhai tudalennau’n unigryw
  • nid yw labeli rhai ffurflenni’n unigryw

Gofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol

Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras, hawdd ei ddeall neu recordiad sain:

Bydd angen i chi ddweud wrthym:

  • cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y mae arnoch ei hangen
  • eich cyfeiriad e-bost a’ch enw
  • y fformat yr hoffech ei dderbyn – er enghraifft, testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras neu gryno ddisg sain
  • pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio

Gallwch ofyn am PDF mewn fformat hygyrch o’r dudalen hon. Cliciwch ar ‘Gofyn am fformat hygyrch’ i gysylltu â’r sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen.

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.

Adborth a manylion cyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

Adrodd am broblemau sy’n gysylltiedig ag hygyrchedd y wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os na fyddwch o’r farn ein bod yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â:

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni

Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i holl gwmnïau ffonau llinellau tir a ffonau symudol ddarparu nifer o wasanaethau i gwsmeriaid sydd ag anableddau. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth cyfnewid testun o’ch dewis chi er mwyn cysylltu â Thîm Grant Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae dolenni sain yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn i chi ymweld, byddwn yn gwneud pob ymdrech i drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Sut i gysylltu â ni:

  • Ffôn: 0300 0604400

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod:

Bydd angen i chi ddweud wrthym:

  • cyfeiriad gwe (URL) y dudalen nad ydych yn credu ei bod yn bodloni gofynion hygyrchedd
  • pam yr ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r  Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni ffonau llinell dir a symudol ddarparu  nifer o wasanaethau i gwsmeriaid ag anableddau . Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth cyfnewid testun o’ch dewis i gysylltu â Busnes Cymru.

Mae system dolen glywed yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, byddwn yn gwneud pob ymdrech i drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod:

·          e-bostiwch: customerhelp@gov.wales

·          ffoniwch: 0300 0604400

Bydd angen i chi ddweud wrthym:

·          pwy ydych chi

·          sut gallwn eich helpu

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Ceisio am gyllid gosod band eang wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â  Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 .

Statws cydymffurfedd

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â  safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 , o ganlyniad i’r achosion o beidio â chydymffurfio a restrir isod.

 

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid oes unrhyw gynnwys anhygyrch hysbys ar y dudalen Ceisio am gyllid gosod band eang. Os ydych chi'n credu nad yw rhai o'n cynnwys yn hygyrch, cysylltwch â ni drwy un o’r dulliau canlynol:

·          e-bostiwch: customerhelp@gov.wales

·       ffoniwch: 0300 0604400

Bydd angen i chi ddweud wrthym:

·       pwy ydych chi

·       sut gallwn eich helpu

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith .#

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Nid yw’r technolegau a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol: Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd.

Lliwiau cefndir a thu blaen ‘Mewngofnodi i SOC’: Nid yw’r cyferbyniad rhwng y bordor melyn a’r cefndir gwyrdd yn y wedd ffocysu yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.4.11 WCAG 2.2 AA. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddwyr sydd ag amhariad ar eu golwg weld yn y wedd ffocysu. Fe wnaethom ni ddatrys y broblem hon ym mis Ionawr 2026

Lliwiau cefndir a thu blaen yr hyperddolenni : Nid yw’r cyferbyniad rhwng y border melyn a’r cefndir gwyn yn y wedd ffocysu yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.4.11 WCAG 2.2 AA. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddwyr sydd ag amhariad ar eu golwg wahaniaethu rhyngddynt yn y wedd ffocysu. Fe wnaethom ni ddatrys y broblem hon ym mis Ionawr 2026

Dolenni teitl Llywodraeth Cymru: Nid oes gan y dolenni teitl enwau amlwg, ac felly nid ydynt yn bodloni Maen Prawf 2.4.2 WCAG 2.2 A. Mae’r maen prawf hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddolenni ddarparu testun disgrifiadol neu enwau hygyrch i ddefnyddwyr sy’n dibynnu ar dechnoleg gynorthwyol. Fe wnaethom ni ddatrys y broblem hon ym mis Ionawr 2026

Lliwiau cefndir a thu blaen y meysydd mewnbynnu: Nid yw’r meysydd mewnbynnu sydd â border melyn yn y wedd ffocysu yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.4.11 WCAG 2.2 AA o ran cyferbyniad. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddwyr sydd ag amhariad ar eu golwg weld yn y wedd ffocysu. Fe wnaethom ni ddatrys y broblem hon ym mis Ionawr 2026

Dim labeli cysylltiedig ar elfennau 'select’: Nid oes gan rai elfennau <select> labeli cysylltiedig rhaglennol, ac felly nid ydynt yn bodloni Maen Prawf 4.1.2 WCAG 2.2 AA, sef sicrhau bod elfennau ffurflenni yn hygyrch i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin. Fe wnaethom ni ddatrys y broblem hon ym mis Ionawr 2026

Offer rhyngweithiol a thrafodion

Nid oes unrhyw offer a thrafodion rhyngweithiol anhygyrch hysbys ar Busnes Cymru. Os ydych chi'n credu nad yw rhai o'n hoffer a'n trafodion Rhyngweithiol yn hygyrch. Cysylltwch â ni ar un o'r ffyrdd isod:

·          E-bost: customerhelp@gov.wales

·          Ffôn: 0300 0604400

Bydd angen i chi ddweud wrthym:

·          cyfeiriad gwe (URL) y dudalen rydych chi'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd

·          pam nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd

Byddwn yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 7 diwrnod gwaith.

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Dylai dogfennau newydd a gyhoeddwn i gael at ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch.

Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw rhai o’n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch. Er enghraifft, mae rhai ohonynt:

·        heb eu marcio mewn ffordd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin eu deall

·        heb eu tagio’n gywir, er enghraifft nid ydynt yn cynnwys penawdau priodol

·        heb eu hysgrifennu mewn iaith glir

Dogfennau hanesyddol yw rhai o’r rhain nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Mae dogfennau o’r math hwn wedi’u heithrio o’r rheoliadau. Nid ydym yn bwriadu eu gwneud yn hygyrch ar hyn o bryd.

Os oes arnoch angen y wybodaeth yn un o’r dogfennau hyn, cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod a gofynnwch am fformat gwahanol.

·        e-bostiwch: customerhelp@gov.wales

·        ffoniwch: 0300 0604400

Bydd angen i chi ddweud wrthym:

·        cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y mae arnoch ei hangen

·        y fformat yr hoffech ei dderbyn

·        pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 3 Chwefror 2026 i ddisodli’r datganiad hygyrchedd blaenorol. Adolygwyd y datganiad ddiwethaf ar 3 Chwefror 2026.

Sut aethom ati i brofi’r wefan

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 1 Tachwedd 2025. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol.

Fe wnaethom ni ddefnyddio Sitelmprove a Google Lighthouse i sganio bob tudalen o’r ffurflen gais am gyllid i osod band eang: https://ceisioamgyllidgosodbandeang.gwasanaeth.llyw.cymru/