Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwneud cais am gyllid gosod band eang

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r wefan ymgeisio am gyllid gosod band eang ac mae wedi ei anelu’n benodol at Gynllun Grant Allwedd Band Eang Cymru.

ceisioamgyllidgosodbandeang.gwasanaeth.llyw.cymru

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd

Adborth a manylion cyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

Adrodd am broblemau sy’n gysylltiedig ag hygyrchedd y wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os na fyddwch o’r farn ein bod yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â:

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni

Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i holl gwmnïau ffonau llinellau tir a ffonau symudol ddarparu nifer o wasanaethau i gwsmeriaid sydd ag anableddau. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth cyfnewid testun o’ch dewis chi er mwyn cysylltu â Thîm Grant Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae dolenni sain yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn i chi ymweld, byddwn yn gwneud pob ymdrech i drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Sut i gysylltu â ni:

  • Ffôn: 0300 0604400

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 , yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw

Materion o ran dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw rhai o’n dogfennau PDF a’n dogfennau hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol inni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i’w gwneud yn hygyrch.

Dylai unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau newydd rydym wedi eu cyhoeddi ers 23 Medi 2018 fodloni safonau hygyrchedd.

Mae rhai o’n dogfennau PDF a’n dogfennau eraill hŷn yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym:

  • ddogfennau PDF gyda gwybodaeth ar sut y gall defnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau
  • ffurflenni a gyhoeddwyd fel dogfennau Word.

Sut y gwnaethom brofi’r wefan hon

Cafodd y wefan hon ei phrofi o ran hygyrchedd ym mis Mawrth 2023. Cynhaliwyd y profion hyn gan S8080.

  • Fe wnaethom gynnal gwiriad hygyrchedd gwefan llawn gan ddefnyddio SortSite ym mis Mawrth 2023.

Yn ystod y gwiriad SortSite ym mis Mawrth fe wnaethom redeg sganiau awtomatig ar gyfer pob gwall WCAG 2.1 AA.

Fe wnaethom brofi ein prif blatfform gwefan, sydd ar gael ar:

Yr hyn yr ydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym wedi mynd i’r afael â’r holl faterion hygyrchedd technegol yr ydym yn gwybod amdanynt ac wedi eu trwsio.

Ar hyn o bryd rydym yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion cynnwys ac yn eu trwsio, mae hon yn broses barhaus gan fod cynnwys newydd yn cael ei ychwanegu yn aml.

Rydym yn gweithio gyda’n cyflenwr i fonitro’n barhaus a mynd i’r afael ag unrhyw faterion hygyrchedd a gyflwynwyd yn ystod y gwaith parhaus o ddatblygu a diweddaru’r wefan.

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 31 Mawrth 2023.